1981

Yn gynnar yn 1981 sefydlwyd Fflach a rhyddhawyd y sengl gyntaf (recordiwyd yn Hydref 1980) Twristiaid yn y Dre, Hyfryd Bingo a Modur Sanctaidd. Recordiwyd y caneuon yn Stiwdio Sain gydag Eurof Williams yn cynhyrchu a Simon Tassano yn cyd-gynhyrchu a pheiriannu.

Roedd sefydlu Fflach yn gam pwysig i'r band gan iddynt yn awr fod yn berchen a'u label eu hunain, yn debyg i grwpiau pync/don newydd gweddill Prydain ac Iwerddon - roedd Trwynau Coch wedi sefydlu Recordiau Coch yng Nghymru ychydig flynyddoedd ynghynt.

Cyfnod prysur iawn oedd dechrau 1981 o rhan gigs gyda galwadau i chwarae yn Aberystwyth, Clwb Tanybont, a Chaerdydd. Roedd galwadau i chwarae yn neuaddau pentref yn cynyddu hefyd. Dechreuodd y ganolfan mwyaf poblogaidd yng Ngorllewin Cymru sef Neuadd Blaendyffryn gynnal mwy o nosweithiau a'r gigs hynny yn cael eu trefnu gan Gymdeithas yr Iaith .Cynyddodd ymddangosiadau AS yno, gyda System Sain Rocyn a Hubert yn gwmni! Roedd 300-600 o bobl yn Blaendyffryn yn rheolaidd.

Erbyn hyn roedd AS yn gwerthu copiau o Twristiad yn y Dre mewn gigs ac mewn siopau ar hyd a lled Cymru, Roedd y 100 copi cyntaf ar glawr 'dayglo' a gwerthwyd bron y cyfan o'r 500 a wasgwyd. Gwnaeth AS ymddangosiad arall ar ddechrau'r flwyddyn yn Stiwdios HTV ym Mhontcanna a hynny i ganu Twristiad yn y Dre. Yn fuan ar ôl recordio'r sengl, yn anffodus gadawodd Gareth Lewis y band, ac ymunodd Kevin Bearne â AS am gyfnod ar y drymiau . Chwaraewyd yn un o'r gigs mwyaf yn y calendar Cymraeg – sef y ddawns rhyng golegol, yn cefnogi Edward H. Dafis.

Gyda'r diddordeb yn Fflach yn cynyddu, roedd rhaid darganfod stiwdio yn agosach i adre i recordio. Clywodd y bois am Stiwdio'r Bwthyn, Cwmgiedd, Ystradgynlais a'i berchennog Richard Morris, ac wedi gwrando ar gynhyrchiadau da o'r stiwdio fel 'Lan yn y Gogledd' gan Crys,- felly i mewn i'r Modur Sanctaidd ac off i'r De! Ar ôl sgwrsio â Richard Morris, a chyda caneuon newydd ar gael penderfynodd AS i recordio gydag ef. Recordiwyd 'Geiriau', 'Annwyl Rhywun' a Cura Dy Law gyda Eurof yn cynhyrchu unwaith eto, a Richard Morris yn peiriannu. Roedd Richard yn gerddor arbennig ac yn cael sŵn unigryw allan o'i stiwdio, fe wnaeth ef a Eurof waith arbennig o'r cynhyrchu. Cafodd y sengl yma ymateb anhygoel (adolygiad gwych yn Sgrech) a daeth y gân yn boblogaidd iawn mewn gigs AS, gyda'r gynulleidfa yn aml yn cyd-ganu'r geiriau. Gwerthwyd yn agos i fil o gopiau, llawer ohonynt mewn gigs.

Daeth newid i aelodaeth AS yng Ngwanwyn 1981 gyda Robert Newbold yn ymuno fel drymiwr. Un o West Bromwich oedd Robert, a threuliwyd peth amser gydag ef yn ymarfer y set o tua 20 o ganeuon. Roedd Robert a'i hiwmor ffraeth yn ffitio mewn i Ail Symudiad yn berffaith! Ef oedd i ddod yn ddrymiwr sefydlog i'r band am y blynyddoedd nesaf, ac erbyn Eisteddfod Machynlleth a'r Fro 1981 roedd Robert wedi chwarae mewn sawl gig. Yn Eisteddfod Machynlleth cafodd y grwp 'Sesiwn Sgrech' anhygoel gyda nifer fawr o'r gynulleidfa yn dawnsio ar y byrddau. Yn ystod Haf y flwyddyn honno gwnaeth AS daith Haf, yn chwarae ar hyd a lled Cymru, o Neuadd Penrhyndeudraeth i Glwb Casablanca yn Nociau Caerdydd, - tipyn o waith i'r bois gan fod 'day jobs' gyda nhw hefyd,- ond cafwyd taith arbennig o lwyddiannus. Yr oedd y grwp o goleg Aberystwyth Chwarter i Un yn chwarae gyda nhw ar y daith.

Ar un ymweliad â Chaerdydd yn ystod ffilmio i'r rhaglen Sêr clywodd y bois am siop ddillad pync oedd wedi agor yn y ddinas;doedd e ddim yn siop fawr, ond gyda'r enw bachog - Paradise Garage. Yn sgil ymweld â'r siop ysgrifennwyd y gân Garej Paradwys, cân oedd yn clodfori y mudiad pync/don newydd - "Dewch i lawr i Garej Paradwys, Cawn weld y wawr o Garej Paradwys......Trowch nawr a dweud HWRE!! Wrth fynd i'r hyfryd le!......a.y.b....

Aeth y bois nôl i'r stiwdio i recordio'r ddwy gân Garej Paradwys a Ffarwel i'r Fyddin yn ystod yr Hydref. Eto daeth Eurof a Richard Morris i gynhyrchu a pheiriannu yn Stiwdio'r Bwthyn. Rhaid i AS ddiolch i un o'u ffrindiau Rhodri Davies am ei help wrth recordio. Roedd ef a Malcolm Neon yn gymorth mawr i'r band o hyd, heb anghofio y 'roadies' Graham Bowen, Arfon Griffiths, Clive Phillips, Clive Pater, Mwp, Dave Bendall a Hubert Mathias, Rocyn.

Cafodd Garej Paradwys ei ryddhau ym mis Rhagfyr a'r cynllun clawr gan Malcolm Neon. Ef hefyd a cynlluniodd clawr 'Geiriau'..........

Recordau Fflach Logo

Aberteifi o Llandudoch

Sengl cyntaf ar Fflach 1981 - Twristiaid yn y Dre

Ail Sengl ar Fflach ym 1981 - Geiriau

Trydydd sengl ar Fflach, 1981 - Garej Paradwys

Neuadd Blaendyffryn

Gyda'r Trwynau Coch Blaendyffryn.

Taith Haf Clwb Casablanca Caerdydd

MySpace